Covid a chartrefi gofal: 'Anghenion dynol sylfaenol wedi'u hanghofio'
Mae teulu dyn o Ddyffryn Conwy fu farw gyda Covid-19 tra'n byw mewn cartref gofal yn dweud fod "anghenion dynol sylfaenol" preswylwyr wedi cael eu "hanghofio".
Bu farw Tecwyn Williams ym mis Chwefror 2021, ond oherwydd rheolau llym ar ymweld â chartrefi gofal ar y pryd, doedd dim cyfle i'w deulu ffarwelio ag ef.
Mae'r Ymchwiliad Covid wedi ailddechrau ddydd Llun, a'r rhan yma'n edrych ar yr effaith ar gartrefi gofal.
Bu farw bron i 46,000 o bobl mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o bron i ddwy flynedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i gydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad er mwyn sicrhau bod yna graffu manwl ar yr holl benderfyniadau a'r camau gafodd eu cymryd yng Nghymru".
Elen Wyn aeth i gwrdd ag Ann, merch Tecwyn Williams, ar gyfer rhaglen Newyddion S4C.