Profiad 'anhygoel' cwpl ifanc o Sir Gâr yn ffilmio Race Across the World
Mae cwpl ifanc o Sir Gaerfyrddin - Sioned Cray a Fin Gough - yn cystadlu yng nghyfres newydd y rhaglen boblogaidd Race Across the World.
Gyda gwobr o £20,000, mae'n rhaid i'r cystadleuwyr geisio gwneud eu ffordd o Wal Fawr China i dde India - ond dydyn nhw ddim yn cael neidio ar awyren, defnyddio ffôn symudol na ddefnyddio cerdyn banc.
Disgrifiodd Ms Cray y profiad fel un "anhygoel" sydd wedi codi'r awydd i deithio mwy yn y dyfodol.
"Fi wastad 'di moyn gwneud y Seven Wonders of the World, ond doeddwn i ddim yn actually meddwl bo' fi am fynd i China. So oedd o bach yn mad," meddai ar raglen Trystan ag Emma.
Ychwanegodd Mr Gough: "Mae'r sialens wedi gwneud i'r ddau ohonom fod eisiau gweld mwy o'r byd yn bendant.
"Roedden ni eisiau mynd i Awstralia beth bynnag ac ar ôl i ni ddod yn ôl o ffilmio'r gyfres, wnaethon ni benderfynu mynd yn syth.
"Roedd o'n hollol anhygoel ac rwy'n credu ein bod ni wedi dod yn ôl ac eisiau mynd eto."