'Roedd e'n disgleirio' – Eurof Williams yn cofio Geraint Jarman
Wrth gofio am ei gyfaill Geraint Jarman, dywedodd Eurof Williams y byddai'n "gweld eisiau trafod cerddoriaeth gydag e".
Roedd yna deimlad bo' chi gyda rhywun arbennig pan yn ei gwmni, ychwanegodd.
"Mae'r golled i ni heddiw yn fwy na mae unrhyw un yn gallu ei ddychmygu."
Dywedodd iddo gwrdd â Geraint hanner can mlynedd yn ôl a bod y cyfeillgarwch wedi tyfu ers hynny.
"50 mlynedd o gerddoriaeth, o farddoniaeth, o gynhyrchu rhaglenni teledu... a'r miwsig, roedd e'n byw am ei gerddoriaeth."