Fishlock yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn Aberystwyth

Mae'r bêl-droedwraig, Jess Fishlock, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau.

Fe wnaeth hi gychwyn ei haraith gan annerch y dorf yn Gymraeg: "Prynhawn da pawb, diolch am y croeso."

Mae hi'n chwarae i dîm Cymru a hi sydd bellach wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau, a sgorio'r nifer fwyaf o goliau yn hanes pêl-droed Cymru.