Cysylltiad 'cryf' Cymru gyda llwyddiant D-Day
Mae dydd Iau yn nodi 80 mlynedd ers D-Day - yr ymosodiad enwog ar draethau Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cyn y glaniadau enwog ar 6 Mehefin 1944, roedd cryn dipyn o waith paratoi wedi digwydd y tu ôl i'r llen i sicrhau bod modd cludo'r holl filwyr ac offer draw i Ffrainc yn ddiogel.
Fe wnaeth dau Gymro chwarae rhan hanfodol yn y paratoadau yma.
Graham Worley o Brifysgol Bangor sy'n trafod cyfraniad y gwyddonydd Jack Darbyshire, a Dr Elin William sy'n rhannu hanes y peiriannydd Hugh Yoris Hughes.