Super Rygbi Cymru: 'Y nod yw rhoi llwyfan i chwaraewyr ifanc'

Bydd cynghrair newydd Super Rygbi Cymru yn cychwyn nos Iau.

Y gêm gyntaf fydd Llanymddyfri - a enillodd Uwch Gynghrair Indigo a Chwpan yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf – yn erbyn Pont-y-pŵl.

Yn y newid mwyaf yn strwythur y gamp ers cyflwyno rygbi rhanbarthol yn 2003, mi fydd na ddeg tîm yn cystadlu yn y gynghrair newydd.

Y nod yw pontio’r bwlch i chwaraewyr sy’n symud rhwng yr academïau a’r rhanbarthau.