'Angen i ni ddysgu gwersi' yn dilyn y llifogydd - Morgan

Mae'n "amlwg" bod angen "edrych ar y system rhybuddio" llifogydd, meddai Prif Weinidog Cymru.

Roedd Eluned Morgan yn siarad ar ymweliad â Phontypridd, un o'r ardaloedd sydd wedi eu taro waethaf gan Storm Bert.

Cafodd dwsinau o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan lifogydd ym Mhontypridd dros y penwythnos, a bu'n rhaid symud pobl o'u cartrefi yng Nghwmtyleri yn dilyn tirlithriad.

Mae rhai wedi bod yn feirniadol o'r system sy'n rhybuddio am lifogydd, gan ddweud nad oedd yn ddigonol.

Nid oedd Ms Morgan am feirniadu'r asiantaeth sy'n gyfrifol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan ddweud nad nawr yw'r amser "i roi bai ar neb, yr amser ar hyn o bryd yw rhoi help i bobl sydd angen yr help".

Ond dywedodd: "Mi fydd yna angen i ni ddysgu gwersi, mi ddysgon ni lot o wersi y tro diwethaf, ond yn amlwg mae'n rhaid i ni edrych ar y system rhybuddio yna."