'Anhygoel cael y siawns i gael ein llais wedi clywed'

Bydd y cyfnod pleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru yn dod i ben ddydd Llun.

Dyma'r trydydd troi i'r broses hon ddigwydd, lle caiff 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru eu hethol i gynrychioli'r to iau yn y Senedd.

Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar yn dangos fod pobl ifanc yn llai tebygol o ymddiddori a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth.

Ond roedd criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg o'r farn fod y Senedd Ieuenctid yn gyfle i hybu a chael trafodaeth ehangach am wleidyddiaeth.