Eisteddfod yr Urdd yn 'feithrinfa am fywyd' - Lowri Morgan

Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth, Lowri Morgan, wedi dweud bod yr ŵyl yn "feithrinfa am fywyd".

Dywedodd y rhedwr fod yr Urdd wedi ei dysgu "sut i golli", ac mai dyma'r wers bwysicaf y mae hi wedi'i gael erioed.

Esboniodd fod y dyfalbarhad yma wedi ei galluogi i "ddod yn ôl" yn ei gyrfa, gan gynnwys gorffen ras yn ddiweddar "gyda rhedwyr gorau'r byd yn 51 oed".

"Felly'r neges fyswn i'n dweud yw peidio fyth rhoi lan. Os oes 'da chi freuddwyd, peidiwch fyth rhoi lan," meddai.