Trigolion Llangefni yn dweud eu dweud am yr etholiad

Yn ogystal â bod yn ynys ddaearyddol mae Môn hefyd â thuedd i fod yn ynysig ei natur yn wleidyddol.

Mae gan yr etholaeth hanes o dorri ei chwys ei hun drwy beidio dilyn tueddiadau gwleidyddol eraill bob tro.

Ond fel y rhan fwyaf o seddi'r gogledd fe olchwyd Môn gan y don las Geidwadol yn 2019.

Gyda'r dair prif blaid yng Nghymru wedi cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan yn ystod y chwarter canrif diwetha', maen nhw i gyd yn teimlo bod siawns gwirioneddol o ennill y sedd y tro yma.

Rhai o drigolion Llangefni fu'n rhoi eu barn am yr etholiad a'r sefyllfa o fewn cymunedau ar yr ynys.

Dywed un "nad oes na'm llawer o'm byd yma de, dyna di'r drwg, mae pob man yn cau tydi, jysd dim llawer o opportunities i bobl ifanc".

Dywedodd un arall ei bod hi'n "drist dydi, i gefn gwlad".