Jeremy Vine yn ymarfer ei Gymraeg cyn yr etholiad
Bydd y cyflwynydd Jeremy Vine yn darlledu o adeilad y BBC yng Nghaerdydd ar noson yr etholiad cyffredinol.
Bydd yn defnyddio sawl graffeg a gwahanol fathau o dechnoleg er mwyn datgelu'r canlyniadau gydol y nos.
Wrth gyfeirio at adeilad Y Sgwâr Canolog, dywedodd: "Mae hwn wir yn adeilad anhygoel, dwi heb fod yn yr adeilad yma o'r blaen, mae fel palas".
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn cofio safle'r BBC yn Llandaf: "Er bod y safle gwreiddiol yn Llandaf yn dod i ddarnau, roedd yn le hardd, ond ei fod wedi dyddio".
Dywedodd ei fod wedi treulio tipyn o amser yn dysgu enwau'r etholaethau yng Nghymru.
“Mae’n noson fawr ac os ydych yn mwynhau gwleidyddiaeth fel fi, allwch chi ddim cael digon ohono”.
Wrth sôn am y gwahanol ddarluniau fydd yn ymddangos ar y sgriniau ar y noson, dywedodd fod y cyfan "yn high tech" gan sôn bod uchder yr adeilad yn gwerthu ei hun yn dda i'r lluniau fydd yn cael eu dangos.
Ond dywedodd mai'r peth fwyaf heriol eleni yw bod "ffiniau'r etholaethau wedi newid, yng Nghymru maen nhw wedi mynd o 40 sedd i 32 sedd".
"Felly sut ydych chi'n cymharu'r etholiad yn 2023 gydag un 2019 os yw ffiniau'r etholaethau yn wahanol?
"Mae cymaint o raglenni yn dod o fan hyn noson yr etholiad, rhaglen BBC One Network, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Newyddion, ac wrth gwrs yr un pwysicaf oll, BBC Cymru Fyw, os y' chi'n colli hwnna, chi'n colli'r etholiad."