'Lwc pur' fod neb wedi ei ladd gan yrrwr peryglus yng Ngheredigion
Mae'r barnwr yn achos dyn o Geredigion, sydd wedi cael ei garcharu am achosi anaf i berson arall drwy yrru yn beryglus, yn dweud mai "lwc pur" oedd hi na chafodd neb ei ladd o ganlyniad i'w ymddygiad.
Ar 1 Chwefror fe wnaeth Peter Gilmore, 51, yrru rownd cornel ar ochr anghywir y ffordd gan daro gyrrwr arall ar y B4337 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.
Fe blediodd yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiadau o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a pheidio â rhoi sampl gwaed i'w ddadansoddi.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau cafodd Gilmore ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis dan glo ac mae o wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a dau fis.
Mae lluniau dashcam yn dangos un achlysur lle daeth Gilmore yn agos at achosi gwrthdrawiad, a'r foment darodd yn erbyn cerbyd arall.