Rhestrau aros 'yn sobor' meddai menyw arhosodd dair blynedd
Mae amseroedd aros hir am driniaethau yng Nghymru wedi gostwng dwy ran o dair yn y pedwar mis diwethaf.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi gostwng i ychydig o dan 8,400 erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – y lefel isaf ers mis Ebrill 2021.
Er y gostyngiad mae'r ffigwr yn dal yn uwch na rhai GIG Lloegr a oedd â dim ond 147 o bobl yn aros dros ddwy flynedd.
Un fu'n aros am dair blynedd am glun newydd ydy Lona Adamek, 57 o'r Felinheli.
Ar ôl iddi gael ei chlun newydd, dywedodd: "Dwi ddim yr un ddynas ag o'n i 'di bod. Dwi ddim yn medru egluro faint o wahaniaeth mae o 'di neud.
"Mae o 'di neud gwahaniaeth i fi yn gorfforol ac yn feddyliol."