'Byth yn meddwl fysa ni'n chwarae timau fel hyn'
Mae chwaraewyr Y Seintiau Newydd, Leo Smith a Sion Bradley, yn dweud bod chwarae yng Nghyngres UEFA y tymor yma wedi bod yn dipyn o brofiad.
Y Seintiau ydi'r tîm cyntaf erioed o gynghreiriau Cymru i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop, ac maen nhw wedi cael y profiad o chwarae oddi cartref yn erbyn un o gewri Yr Eidal – Fiorentina.
Mi fyddan nhw'n wynebu Panathinaikos o Wlad Groeg nos Iau a Celje o Slofenia wythnos nesaf, gan wybod bod yn rhaid iddyn nhw gael o leiaf bedwar pwynt os am unrhyw obaith o fynd drwodd i'r rownd nesaf.