Gwasanaethau bysiau 'yn ofnadwy o bwysig' i fyfyrwyr Gwynedd

Mae 'na rybudd bod angen gwario arian ychwanegol sylweddol os am greu system fysiau yng Nghymru sy'n debyg i Lundain.

Mae disgwyl i gyfraith sy'n rhoi bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus gael ei chyhoeddi ddydd Llun.

Yn dilyn blynyddoedd o doriadau a gostyngiad yn nifer y teithwyr, mae Llafur eisiau i gwmnïau bysiau gystadlu am gytundebau yn lle gweithredu ar ben eu hunain.

Cyhoeddwyd cynllun ar gyfer masnachfreintiau chwe blynedd yn ôl, ond fe allai gymryd pum mlynedd arall i'w gyflawni.

Mae'r BBC wedi bod yn siarad gyda chriw o fyfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo yng Ngwynedd sy'n dibynnu ar fysiau i allu cyrraedd eu gwersi.