'Mae bywyd heb alcohol yn hollol bosib'
Yn ôl ffigyrau'r elusen DrinkAware, dolen allanol mae bron i 90% o yfwyr alcohol yng Nghymru yn cymryd o leiaf un cam i geisio lleihau faint maen nhw'n ei yfed.
Er mwyn gwneud hynny mae'r tactegau'n cynnwys osgoi alcohol yn ystod yr wythnos ac yfed diodydd di-alcohol.
Mae'r ystadegau'n dangos cynnydd hefyd yn nifer y bobl ifanc 18-34 oed sydd byth yn yfed lot o alcohol mewn cyfnod byr - binge drinking - neu'n troi at "sobrwydd ysbeidiol" lle maen nhw'n rhoi'r gorau i yfed, ond nid yn gyfan gwbl.
Un sydd wedi gorfod cael triniaeth at orddibyniaeth ar alcohol yw Ellie McIntyre o'r Felinheli yng Ngwynedd.
Mae hi wedi disgrifio sut y bu'n yfed trwy ei harddegau cyn gorfod mynd i ganolfan arbenigol am driniaeth yn ei hugeiniau cynnar.
Roedd hynny wedi i feddyg yn yr ysbyty ei rhybuddio bod yna risg iddo farw cyn cyrraedd ei thridegau oni bai ei fod yn stopio goryfed.
Erbyn hyn, yn 26 oed, mae hi wedi bod yn sobor ers bron i bedair blynedd, ac mae hi'n gweithio gyda phobl ifanc bregus sy'n ddigartref neu'n cael trafferth cadw tenantiaeth.