Uchafbwyntiau: Sweden 1-1 Cymru
Gêm gyfartal oedd hi i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth, yn erbyn Sweden yn stadiwm Gamla Ullevi yn Gothenburg.
1-1 oedd y sgôr, yn dilyn goliau gan Magdalena Eriksson i Sweden a Hannah Cain i Gymru yn yr ail hanner.
Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, gyda'r Eidal, Denmarc a Sweden.
Fe fydd gêm nesaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd oddi cartref yn erbyn Denmarc ar 30 Mai, cyn croesawu'r Eidal i Gaerdydd ar 3 Mehefin.