O'r Archif: Dewi 'Pws' Morris

Mae un o ffigyrau mwyaf amryddawn a phoblogaidd byd adloniant Cymru, Dewi 'Pws' Morris wedi marw yn 76 oed.

Mae'n fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.

Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers blynyddoedd, oedd prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws.

Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf - y band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.

Wrth gofio ei gyfraniad eang i'r diwylliant Cymreig, dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai o'i ymddangosiadau cofiadwy ar raglenni teledu fel Gwerin 74 (1974), Bechingalw (1991) a Tip Tap (1995).