Cymorth yn 'bwysig i bawb' yn dilyn cau Porthladd Caergybi
Mae fferis yn dychwelyd i borthladd Caergybi am y tro cyntaf ers mis, yn dilyn difrod i lanfeydd gan Storm Darragh ddechrau Rhagfyr.
Er yn croesawu'r agoriad, mae rhai busnesau yn dweud eu bod wedi eu taro'n galed ac nad oes disgwyl adferiad llawn tan fydd y porthladd yn gallu ailagor yn ei gyfanrwydd.
Yn ôl Adrian Parry o westy a bwyty Lastra yn Amlwch, mae'r porthladd yn cyfrannu'n helaeth i economi'r rhanbarth.
Mae'n galw am gymorth i fusnesau sydd wedi eu heffeithio.
"Mae rhyw fath o gymorth yn bwysig i bawb. Mae o wedi digwydd a mae busnesau wedi cael colledion, a fyswn yn licio gweld nhw yn helpu busnesau yn lleol."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n ystyried y dystiolaeth am yr effaith economaidd cyn cymryd y camau nesaf.