Torf fwyaf erioed yn 'newyddion ffantastig' i ferched Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna record o dorf yn bresennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener wrth i ferched Cymru wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2025.
Maen cyfanswm o 15,600 o docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer y cymal cyntaf, ac fe all hynny godi i fod yn nes at 20,000 dros y dyddiau nesaf.
15,200 oedd y record flaenorol ar gyfer y gêm yn erbyn Bosnia Herzegovina yn 2022.
Mae Ffion Morgan, ymosodwr Cymru, yn dweud ei fod yn "newyddion ffantastig" wrth i Gymru geisio cyrraedd rowndiau terfynol un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.