Penodi arweinydd heb etholiad yn 'gambl ar ran Llafur'

Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd, a hi felly fydd yn cael ei henwebu gan y blaid i olynu Vaughan Gething fel prif weinidog.

Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac mae disgwyl mai hi fydd prif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda, dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick bod "y grŵp Llafur yn y Senedd wedi sicrhau undod - neu o leiaf undod arwynebol - trwy beidio cynnal etholiad ond bydd pris o bosib i'w dalu".

"Ry'n ni'n gwybod o achos Sunak yn San Steffan neu Swinney yn yr Alban bod yr etholwyr efallai yn cosbi arweinwyr nad oedden nhw wedi eu hethol gan eu haelodau.

"Gambl ar ran Llafur yw'r penderfyniad yma mewn gwirionedd."

Bydd rhagor am hyn ar bodlediad Gwleidydda.