Tanau gwyllt i'w gweld o hofrennydd uwchben ardal Pontrhydfendigaid

Mae lluniau hofrennydd yn dangos maint y tân mawr sydd wedi lledu ar draws ardal Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion, gan orchuddio ardal sy'n cyfateb i 4,000 o gaeau pêl-droed.

Yn ôl diffoddwyr tân mae tanau gwyllt ledled Cymru yn dechrau sefydlogi bellach ar ôl i griwiau weithio am sawl diwrnod i'w rheoli.