'Rhwystredig' aros degawd am ddiagnosis endometriosis
Mae Cymraes a fu'n rhan o gyfres The Traitors yn dweud ei bod wedi cymryd degawd i gael diagnosis am gyflwr oedd yn "faich meddyliol" arni yn ei harddegau.
Dywedodd Elen Wyn, sydd bellach yn 24 oed, fod angen lleihau'r rhestrau aros ar gyfer cael triniaeth endometriosis.
Er iddi gael cadarnhad o'r diagnosis y llynedd, mae'n dal yn wynebu blynyddoedd o aros cyn iddi gael triniaeth i leddfu symptomau.
Mae endometriosis yn gyflwr cronig nad oes modd gwella ohono ac sy'n effeithio ar 10% o fenywod o oedran atgenhedlu yn y DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd £3m yn cael ei wario i sefydlu Canolfan Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026.