Anwen Butten 'methu aros' i gael ei hanrhydeddu
Mae nifer o Gymry ymhlith y cannoedd o bobl drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.
Yn eu plith mae'r bowliwr lawnt Anwen Butten, o Gellan ger Llanbedr Pont Steffan.
Hi oedd capten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.
A hithau bellach wedi ymddeol o chwarae ar y lefel uchaf, dywedodd ei bod hi'n teimlo mai nawr yw'r amser i "roi nôl" i'r gamp trwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf.
Mae Anwen yn nyrs sy'n arbenigo ar ganser y pen a'r gwddf yn ei gwaith bob dydd, ac mae'n cael ei chydnabod am hynny hefyd.