Cyflwr cronig: 'O'dd rhywbeth ddim yn iawn'
Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sydd â chyflyrau cronig yn bygwth pa mor gynaliadwy fydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, yn ôl pwyllgor y Senedd.
Yn ôl Elin Angharad Lloyd, sy'n byw gyda pharlys ymledol, neu MS: "O'dd fy nghorff i'n mynd yn numb bob hyn a hyn ac o'n i'n mynd nôl at y doctor bob tro.
"Mae'n anodd, dwi'n deall hynny ond mae'n rhaid gwrando ar person yn uniongyrchol pan ni'n mynd i weld y doctor.
"Ni'n nabod ein cyrff ein hunain ac o'dd rhywbeth ddim yn iawn."
Mae bron i hanner oedolion Cymru â chyflyrau cronig fel parlys ymledol, neu MS, ond does yna ddim cymorth ar gael bob tro i sicrhau bod unigolion yn medru ymdopi a mwynhau cyfnodau hir o iechyd.
Hyfforddi rhagor o nyrsys arbenigol, gwella darpariaeth gofal iechyd meddwl a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglyn â'r ystod eang o wasanaethau gofal iechyd sydd ar gael yw rhai o argynhellion y Pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n craffu'n fanwl ar ddargynfyddiadau'r pwyllgor cyn ymateb ymhellach.