Daniel Owen: Diffyg teilyngdod y 'peth ola' oedden ni eisiau'

Diffyg teilyngdod oedd "y peth ola'" roedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen am ei weld.

"Doedd 'na ddim un ohonyn nhw'n agos at fod yn barod, neu bron yn barod i'w cyhoeddi," meddai Catrin Beard.

Doedd neb yn deilwng o'r wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

"O'dd o'n siom ofnadwy, dyna'r peth ola' oedden ni eisiau," meddai un o'r beirniaid Marlyn Samuel.

"O'dden ni'n edrych ymlaen at ddarllen y gweithiau, ond fel oedden ni'n darllen ymlaen, o'dd hi'n amlwg nad oedd 'na'm un yn deilwng a dweud y gwir."

"Egin nofelwyr oedd y rhain," ychwanegodd ei chyd-feirniad Catrin Beard.

"Mae 'na addewid ym mhob un ohonyn nhw, ond doedd 'na ddim un ohonyn nhw'n agos at fod yn barod neu bron yn barod i'w cyhoeddi.

"Ond dwi'n gobeithio na fydd yr awduron yma'n digalonni, achos mae 'na wreichionyn ym mhob un ohonyn nhw."