Oasis yn ail-ffurfio: 'Byth yn meddwl byddai'n digwydd'

Fe fydd Oasis yn dechrau eu taith yn 2025 gyda dwy sioe yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Fore Mawrth fe wnaeth y band gyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio ac yn bwriadu chwarae yn fyw am y tro cyntaf ers 2009.

Mae’r cerddor Mei Emrys wedi bod yn ddilynwr brwd o'r band ers y 1990au, a bu'n ymateb i'r newyddion ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Mae hwn yn gyhoeddiad na fyddai llawer o bobl o genhedlaeth benodol fel fi, sydd wedi tyfu i fyny yn y 90au, byth yn meddwl byddai'n dod," meddai.

"I fi, a miloedd os nad miliynau o gefnogwyr eraill yn y 90au, mae’n fore cyffrous iawn."

Bydd y daith yn dechrau gyda dwy noson yng Nghaerdydd ar 4 a 5 Gorffennaf, cyn symud ymlaen i Fanceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn.