'Niwed a difrod unwaith eto'
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion o 03:00 tan 11:00 ddydd Sadwrn ar gyfer rhannau helaeth o'r arfordir ac ar gyfer gorllewin a de Cymru.
Er bod y rhybudd yn dod i ben am 11:00, mae sawl rhybudd arall yn parhau mewn grym tan fore Sul.
Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda llifogydd a choed wedi disgyn ar draws y wlad a gyda'r gwaethaf o'r gwyntoedd ar ben, mae 'na hyrddiadau sylweddol yn dal i daro.
Mae disgwyl i Faes Awyr Caerdydd barhau ar gau tan brynhawn ddydd Sadwrn.
Y tro diwethaf i rybudd tywydd coch fod mewn grym yng Nghymru oedd yn Chwefror 2022 adeg Storm Eunice.