Ymddeol yn rhywbeth mae Allen yn 'ystyried drwy'r amser'
Mae chwaraewr canol cae Abertawe a Chymru Joe Allen yn cyfaddef fod posibilrwydd y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.
Yn 34 oed bellach, mae ei gytundeb gydag Abertawe yn dod i ben yn yr haf, a hyd yma does yna ddim trafodaethau wedi bod am gytundeb newydd.
"Mae'n rhywbeth naturiol dwi'n ei ystyried drwy'r amser ac yn meddwl amdano, ond does dim ateb ar y funud," meddai Allen.
"Dwi ddim yn siŵr iawn be' fydd yn digwydd."