Capel Engedi: 'Da ni isho creu canolfan efo egni newydd'
Gallai capel, lle cafodd y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia ei drafod gyntaf yng Nghymru, agor unwaith eto.
Mae Capel Engedi yng Nghaernarfon wedi cau ers nifer o flynyddoedd bellach.
Roedd Lewis Jones, un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig yn ne America, yn aelod yn y capel.
Liam Kurmos ydi arweinydd prosiect Engedi2.0 a'r bwriad ydi agor y capel unwaith eto fel canolfan gymunedol fydd yn cynnwys amgueddfa i gofio am Lewis Jones.
Mae Sebastian Eduardo Pèrez Parry wedi'i eni a'i fagu ym Mhatagonia ac yn aelod o'r tîm sy'n ceisio adnewyddu'r capel yng Nghaernarfon.
Mae Mr Parry yn hanesydd ac mae ganddo lawer o brofiad yn gweithio mewn amgueddfeydd.
Dywedodd fod capel Engedi "yn ddiddorol iawn".
Dywedodd: “Ro’n i’n astudio Cymraeg ym Mhorth Madryn ac yn gweithio llawer ar hanes y wladfa Gymreig ym Mhatagonia a darllen llyfrau Lewis Jones – yr hyn ysgrifennodd o am hanes y wladfa yn Ne America.
"Mewn llyfrau eraill, mae’n dweud bod Engedi yn lle pwysig iawn felly, ro’n i am weld lle roedd o oherwydd ro’n i wedi cynllunio taith hyfforddiant am chwe mis i Gymru eisoes – ro’n i’n gwybod bod gwaith adnewyddu yn digwydd."
Fe gysylltodd Mr Parry â'r tîm yn Engedi ac fe gafodd wahoddiad i ymuno â'r gwaith adnewyddu yno.
Roedd llawer o greiriau yn y capel a sbardunodd Mr Parry i fynd ati i geisio sefydlu amgueddfa mewn ystafell yn y capel.