'Dim cwestiwn' mai Senedd Cymru oedd y llwyddiant mwyaf - Elis-Thomas
Yn ei gyfweliad olaf gyda'r BBC cyn ei farwolaeth yn 78 oed, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas mai "adeiladu Senedd Cymru" oedd llwyddiant mwyaf ei yrfa.
Doedd "dim cwestiwn" am hynny meddai yng Ngorffennaf 2024.
Elis-Thomas oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, fel yr oedd i ddechrau, ac yn aelod rhwng 1999 a 2021.