Gwahardd vapes untro: Y farn ar faes yr Urdd?

Mae gwaharddiad ar vapes untro wedi dod i rym yng Nghymru a ledled y DU ddydd Sul.

O 1 Mehefin ymlaen bydd cyfyngiadau ar hysbysebu a gwerthu vapes, tra bod rhai tafladwy (disposable) wedi eu gwahardd yn llwyr.

Dim ond dyfeisiau sy'n cael eu hystyried fel rhai sydd modd eu hailddefnyddio fydd yn gyfreithlon.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi yn gyntaf gan Lywodraeth y DU fis Ionawr y llynedd, yn dilyn galwadau arnyn nhw i weithredu.

A hithau'n ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd, beth oedd y farn yno ar y gwaharddiad? Ein gohebydd Ellie Carter aeth i holi.