Ymddygiad 'haerllug' rhai e-feicwyr yn achos pryder

Mae pobl ym Mlaenau Gwent yn dweud eu bod yn teimlo "dan warchae" oherwydd y ffordd mae rhai unigolion yn teithio'n beryglus ar e-feiciau neu feiciau trydan pwerus.

Mae rhai o drigolion Tredegar yn poeni fod cerddwyr mewn perygl o gael eu taro, gydag un cynghorydd lleol yn rhybuddio mai mater o amser yw hi cyn y bydd "rhywun yn cael ei ladd".

Dywedodd Heddlu Gwent fod ymgyrch ar waith yn y sir i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Oherwydd y broblem, mae rhai perchenogion busnes yn ystyried gadael y dref ac mae BBC Cymru wedi clywed am rwystredigaeth tebyg mewn ardaloedd eraill.

Dywedodd cynghorydd yn Sir Ddinbych wrth raglen Dros Frecwast fod yna broblem yn nhref Rhuddlan hefyd oherwydd ymddygiad "haerllug" rhai pobl - ar bob math o feiciau.