Dewi Lake: 'Croeso i Regan Grace'

Yn sgil anaf Keelan Giles, mae Regan Grace wedi ei ychwanegu at garfan Cymru.

Dywedodd y capten, Dewi Lake ei fod yn "anffodus bod Keelan wedi cael anaf" ond ei fod yn gobeithio y bydd yn gwella'n fuan.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio y bydd Regan "yn gallu dal lan gyda ni yn ystod yr wythnos nesa".

Fe ychwanegodd ei fod yn falch "i weld e'n ymarfer ac yn y gemau hefyd".

Nid Giles yw'r unig un i fethu'r gêm oherwydd anaf.

Bydd y cyn-gapten Jac Morgan yn methu'r daith oherwydd anaf i linyn y gâr.

Fe fydd y tîm yn herio De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Bydd mewnwr Caerdydd Ellis Bevan yn dechrau, gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Fel eilyddion, fe allai Eddie James, James Ratti a Jacob Beetham hefyd ennill eu capiau cyntaf.