Lluniau CCTV o brifathro yn ymosod ar ei ddirprwy gydag arf
Rhybudd: Fe allai cynnwys y fideo uchod beri gofid i rai
Mae prifathro wnaeth ymosod ar ei ddirprwy ar dir ysgol wedi ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.
Ddechrau Ebrill fe blediodd Anthony John Felton, 54, yn euog i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad wedi'r ymosodiad mewn ysgol yn Aberafan.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl i Felton gyhuddo Richard Pyke o gael rhyw gydag athrawes yr oedd ef wedi bod mewn perthynas â hi.
Cafodd Mr Pyke, 51, driniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ym mis Mawrth.
Mae Felton hefyd yn destun gorchymyn atal amhenodol sydd yn ei rwystro rhag cael cysylltiad gyda'r dioddefwr.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Felton, sy'n cael ei adnabod fel John ac sydd o ardal Gorseinon, wedi taro Mr Pyke "sawl tro" gyda thyndro (wrench) yn y digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph's ar 5 Mawrth.