O'r archif: Hywel Gwynfryn yn darlledu o rali yn Y Bala yn 1966

Mae'r adroddiad yma o 12 Rhagfyr 1966 yn dangos Hywel Gwynfryn yn darlledu o Rali Ryngwladol Fram Cymru yn y Bala.

Roedd y darllediad yn dilyn tridiau o gystadlu ar draws Cymru.

Daw'r clip o Archif Ddarlledu Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol, sy'n cydweithio ag Archifau Ynys Môn i ehangu mynediad at yr archif drwy agor Cornel Clip newydd yn Llangefni.

Bydd y cyfleuster yn cysylltu cymuned Ynys Môn â hanes darlledu Cymru trwy gasgliad cyfoethog o leisiau, straeon a digwyddiadau.

I ddathlu'r achlysur, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad byw ar 11 Medi, gan anrhydeddu treftadaeth ddiwylliannol a darlledu Cymru, gan gynnwys Hywel Gwynfryn.