'Rhaid ffocysu ar ysgolion i gadw rygbi llawr gwlad yn fyw'

Mae nifer yn poeni am ddyfodol rygbi i blant yn dilyn penderfyniad gan Undeb Rygbi Cymru (URC) i dorri'r cyllid ar gyfer ei raglen swyddogion hwb.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd URC gynllun ailstrwythuro er mwyn arbed £5m.

Mae 30,000 o blant wedi elwa o'r cynllun Hwb, sydd wedi'i ariannu ar y cyd rhwng ysgolion a'r undeb ers 2014.

Mae URC wedi addo gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y gêm ar lawr gwlad, gan ddweud y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Dywedodd Joshua Phillips, 23, sy'n swyddog hwb yn Rhondda Cynon Taf, ei fod wedi ei chael hi'n anodd derbyn y penderfyniad.

Yn ôl disgyblion Ysgol Garth Olwg, mae Mr Phillips wedi bod yn help mawr iddyn nhw.