Merched Cymru yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae capten Cymru Angharad James yn dweud eu bod yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr drwy gyrraedd Euro 2025.

Fe fyddan nhw yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, gyda'r cymal cyntaf yng Nghaerdydd nos Wener.

Tydi Cymru erioed wedi cyrraedd un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol, ac mae James yn ymwybodol fod ganddynt gyfle i “greu hanes” dros yr wythnos nesaf.