'Methu fforddio aildrefnu hediad arall i Montenegro'

Gyda gêm fawr yn wynebu tîm pêl-droed Craig Bellamy heno, mae trip nifer o gefnogwyr Cymru i Montenegro wedi'i ganslo heb fawr o rybudd..

Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o Faes Awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar ôl y gêm rhwng Cymru a Thwrci nos Wener ar gyfer y gêm oddi cartref nos Lun.

Ond dywedodd cwmni teithio Wonky Sheep - partner teithio swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru - bod yn rhaid canslo'r hediad wedi i'r awyren daro aderyn.

Ymysg y rhai oedd wedi gobeithio teithio i Montenegro oedd Gareth Price o Gorris. Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Gareth nad oedd yn medru fforddio i aildrefnu hediad arall i Montenegro.