'Wenglish yn iawn' i normaleiddio dwyieithrwydd

Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gweithio ledled y sir i hybu a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, er mwyn "normaleiddio dwyieithrwydd".

Wrth gerdded o gwmpas tref Pontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae'r iaith i'w gweld yn amlwg, gyda phosteri a baneri lliwgar, ac mae nifer o fusnesau lleol yn defnyddio'r bathodyn oren 'Siarad Cymraeg' er mwyn annog sgyrsiau gyda chwsmeriaid.

Yn ôl Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith RCT, mae "defnyddio Wenglish yn iawn a does dim ots am dreiglo".

"Yr her nawr yw sut fydd pethau mewn pythefnos, tair wythnos... ydyn ni'n gallu normaleiddio'r Gymraeg fel ei bod yn fwy gweladwy, a bod pobl yn cael yr hyder i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt?"