Dylanwadwr â miliynau o ddilynwyr am 'ddangos diwylliant Cymraeg i'r byd'

Mae dylanwadwr byd-enwog wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ddydd Llun, ac yn gobeithio rhannu 'chydig o ddiwylliant Cymru gyda'i ddilynwyr.

Mae Connor Marc Colquhoun - sy'n cael ei adnabod fel ConnorDawg neu CDawgVA ar-lein - yn hanu o ogledd Cymru, ond mae bellach yn byw yn Tokyo ac yn gwneud bywoliaeth fel crëwr cynnwys.

Mae ganddo dros dair miliwn o ddilynwyr ar YouTube ac mae ganddo swm sylweddol o ddilynwyr ar Instagram a chyfrwng ffrydio Twitch.

Dywedodd ei bod "mor neis" dychwelyd i Gymru ac i brofi'r diwylliant Cymreig unwaith yn rhagor.

"Mae mor neis i fod 'nôl yng Nghymru a gallu dangos i'r byd a viewers fi y diwylliant Cymraeg," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Mae'r 'steddfod yn ffordd ffantastig o ddangos popeth am ddiwylliant Cymraeg - y canu, y dawnsio, y llefaru."

Ychwanegodd ei bod "mor neis clywed y Gymraeg, dwi wedi colli fo".

"Dwi'n caru Cymru a dwi'n falch 'mod i'n gallu dod 'nôl."