Yr Orsedd: 'Yr anrhydedd mwyaf i Gymro Cymraeg'

Ymhlith yr enwau cyfarwydd eleni a fydd yn derbyn y wisg las mae un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y Gymraeg sef Dewi Llwyd.

Ymunodd â'r BBC yn 1979 ac ar ôl cyfnod fel gohebydd seneddol cyntaf S4C aeth ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni mwyaf adnabyddus y BBC ar S4C gan gynnwys Newyddion, Pawb a'i Farn, Maniffesto a Taro Naw.

Daeth ei gyfnod fel cyflwynydd y rhaglen Newyddion i ben yn 2012 pan olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd newydd y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.

Fe gyflwynodd y rhaglen am saith mlynedd tan 2019. Mae'n parhau i gyflwyno rhaglen Dros Ginio ar ddyddiau Gwener ar Radio Cymru.

"Wel rwy'n teimlo'n hynod freintiedig ac yn ddiolchgar fel rhywun sydd wedi cyflwyno am flynyddoedd lawer o faes yr Eisteddfod," meddai.

"Hon wedi'r cwbl ydy un o'r anrhydeddau mwyaf y gall Cymro Cymraeg ei chael.

"A dwi hefyd yn meddwl ei bod hi'n glod i'r cannoedd ar gannoedd o bobl sydd wedi cydweithio efo fi ac wedi hwyluso'r daith arbennig yma.

"Ac yn naturiol, ar ryw achlysur fel 'ma, dwi hefyd yn hynod ddiolchgar i'r bobl sydd wedi gwylio a gwrando mor deyrngar ar hyd y blynyddoedd."