Gofal yn y Gymraeg i bobl sydd wedi cael strôc yn 'loteri cod post'
Mae dynes a dreuliodd dri mis yn yr ysbyty ar ôl cael strôc yn poeni am brinder y gwasanaethau oedd ar gael iddi hi yn y Gymraeg.
Fe gafodd Sian Teagle, 50 oed o Fargoed yn Sir Caerffili, strôc ym mis Rhagfyr 2022.
Dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi’r gofal a'r gefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty, ond ei bod yn poeni 'na chafodd hi gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Doedd Ms Teagle ddim wedi gofyn am help yn y Gymraeg, meddai, am nad oedd hi'n sylweddoli ei fod ar gael.
Ond mae'n credu bod cynnig therapi lleferydd ac iaith yn Gymraeg yn hanfodol i siaradwyr yr iaith, ac wrth edrych yn ôl mae hi'n bendant y byddai cymorth o'r fath wedi bod yn help iddi wrth wella.
"Yr unig bobl oedd yn siarad Cymraeg oedd fy nheulu. Doedd dim neb arall yn siarad Cymraeg gyda fi."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella cefnogaeth i’r rhai sydd wedi goroesi strôc, ac mae darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn rhan allweddol o hyn.