'Lot wedi newid yn S4C' ers honiadau am ddiwylliant o ofn

Mae prif weithredwr newydd S4C yn dweud bod diwylliant mewnol y sianel wedi gwella a "bod staff yn hapus, yn parchu ei gilydd ac yn falch o fod yn gweithio i S4C".

Ym mis Rhagfyr 2023 roedd adroddiad ar fwlio o fewn S4C yn cynnwys honiadau bod cyn-brif weithredwr y sianel yn ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers ei benodi'n brif weithredwr newydd, dywedodd Geraint Evans fod y sianel "wedi 'neud tipyn o waith ar ein diwylliant mewnol".

Dywedodd fod "lot wedi newid yn S4C" ers yr honiadau, a bod y sianel bellach yn "gryfach na beth fydden ni wedi bod cynt".

Ychwanegodd fod sawl cwmni cynhyrchu wedi dweud wrtho dros y misoedd diwethaf eu bod yn poeni am eu dyfodol.

Dywedodd nad yw S4C "wedi arafu yn ein comisiynu neu wario llai ar gomisiynu", ond fod rhai darlledwyr eraill wedi gwneud hynny yng Nghymru.

Yn sgil hynny, dywedodd nad yw'n siŵr a fydd pob cwmni cynhyrchu yn gallu goroesi a'i bod yn bosib y bydd llai ohonynt yn y dyfodol.

Kate Crockett fu'n ei holi ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth.