Llofruddiaeth plentyn: Y diweddaraf o'r lleoliad

Mae menyw 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio plentyn mewn tŷ yn ardal Gendros yn Abertawe.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glos Cwm Du tua 20:30 nos Iau.

Mae'r fenyw sydd wedi cael ei harestio yn y ddalfa ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl Heddlu De Cymru roedd y plentyn a'r fenyw yn byw gyda'i gilydd a dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.

Mae'r llu wedi sefydlu ystafell neilltuol ar gyfer yr ymchwiliad, sy'n cael ei arwain gan y Tîm Ymchwiliadau i Droseddau Mawr.

Ein gohebydd Meleri Williams sydd â'r diweddaraf o'r ardal fore Gwener.