Carwyn Eckley: Ennill y Gadair yn 'brofiad bythgofiadwy'

Mae enillydd y gadair wedi disgrifio'r profiad o ennill y Gadair fel un "gwefreiddiol".

Carwyn Eckley, 28 oed o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd fod gwres y pafiliwn yn "ychwanegu at y cyffro".

"Mae o'n rhyddhad mawr achos dwi wedi bod yn cario'r gyfrinach 'ma am rai wythnosau."

Yn ôl y beirniaid, roedd y gystadleuaeth yn un agos iawn, gyda Carwyn yn dweud fod hyn yn arwydd o "iechyd y gystadleuaeth."

Roedd ei gyfres o 12 cerdd yn hynod bersonol ac yn ymateb i’r profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

"Mae'r digwyddiad wrth wraidd y cerddi yn un trist, ond dwi'n gobeithio bod 'na obaith iddyn nhw hefyd."