Y gohebydd Aled Huw yn gadael y BBC ar ôl 35 mlynedd

Mae Aled Huw yn gadael y BBC wedi bron i 35 mlynedd fel newyddiadurwr gyda'r gorfforaeth.

Mae'n wyneb cyfarwydd i wylwyr newyddion S4C ac yn llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Cymru ers blynyddoedd, gan gyflwyno, cyfweld a dadansoddi ar ystod eang o bynciau.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, aeth i Ysgol Bro Myrddin, cyn mynd ymlaen i astudio Cemeg yn Rhydychen.

Ymunodd â'r BBC yn 1990, ac yn dilyn cyfnod yn gohebu'n Llundain dychwelodd i Gaerdydd i ddarlledu ar y radio a theledu ar faterion cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe ohebodd Aled ar lawer o'r prif straeon rhyngwladol dros y tri degawd diwethaf - newyn yn Goma yn y Congo, y rhyfel yn Kosovo, ymosodiadau terfysgol Paris, marwolaeth y Frenhines Elizabeth II ac angladd Ray Gravell, yn ogystal ag adrodd o du allan i'r Tŷ Gwyn yn Washington.