Targedu pobl ar noson allan yn 'dychryn ti gymaint'

Mae Anna, nid ei henw iawn, yn un o nifer o fenywod sydd wedi rhannu eu profiadau gyda BBC Cymru o sbeicio, stelcian neu sylwadau a chyffwrdd anweddus ar nosweithiau allan.

Pan ddeffrodd Anna, 19, yn crynu ac yn methu â chofio'r noson gynt mewn clwb nos yng Nghaerdydd, roedd hi'n gwybod fod rhywbeth yn bod.

Roedd ganddi decst ar ei ffôn gan rywun yn gofyn a oedd hi wedi cyrraedd adref yn ddiogel.

Mae Anna wedi dewis rhannu ei stori yn ddienw. Mae'n dal i ddod i dermau gyda'r hyn ddigwyddodd iddi. Chafodd neb mo'u harestio na chyhuddo yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd Heddlu'r De fod mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched wastad wedi bod yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Mae trais yn erbyn menywod a merched "yn annerbyniol ac yn llawer rhy gyffredin ar hyn o bryd", meddai Llywodraeth Cymru, a ychwanegodd fod eu strategaeth ar y mater yn mynd i'r afael â'r broblem "ble bynnag mae'n digwydd".