'Shwmae!': Taylor Swift yn cyfarch Caerdydd yn Gymraeg

Daeth Taylor Swift ar daith i Gymru am y tro cyntaf nos Fawrth ac fe gafodd 67,000 o bobl yn Stadiwm Principality, Caerdydd eu cyfarch ganddi yn Gymraeg.

Cychwynnodd seren bop fwyaf llwyddiannus ei chenhedlaeth ei sioe hirddisgwyliedig gyda'r gair "Shwmae".

"Croeso i Daith Eras," ychwanegodd yn Gymraeg.

Yn ddiweddarach fe ddywedodd wrth y dyrfa: "Diolch o galon."

Yn ariannol, y gred yw bod ei hymweliad gwerth £1bn i economi'r DU.