Y Coridor Ansicrwydd: Riza yn haeddu cyfle gyda Chaerdydd

Mae Caerdydd wedi mwynhau adfywiad o dan y rheolwr dros dro Omer Riza.

Ennill tair, colli un a dwy gêm gyfartal ydy’r record ers ei benodiad, sydd wedi gweld yr Adar Gleision yn codi o'r safleoedd disgyn am y tro cyntaf y tymor yma.

Ond ydy Riza wedi gwneud digon i gael y swydd yn barhaol?

"Dwi yn gweld Caerdydd yn ei gadw ymlaen," meddai cyn-flaenwr Cymru Malcolm Allen ym mhennod ddiweddaraf y podlediad Y Coridor Ansicrwydd.

"Ac ella cael gwared ohono fo mewn 10 mis ac mi fyddan nhw yn yr un lle eto."

Gwrandewch ar Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds